
Cynhadledd UCM Cymru yw prif gorff creu polisi UCM Cymru, sy'n Wlad wleidyddol hunan-reolus o fewn UCM y DU.
Daw ein Hundebau Myfyrwyr at ei gilydd yng Nghynhadledd UCM Cymru 2018 i osod cyfeiriad ein gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae gan bob Undeb Myfyrwyr hawl i gyflwyno cynigion i Gynhadledd UCM Cymru, lle cânt eu trafod gan y cynrychiolwyr oll cyn cynnal pleidlais.
Mae polisïau a gaiff eu pasio gan UCM Cymru'n parhau mewn grym (sef eu cynnwys yn y llyfr polisi) am gyfnod o dair blynedd. Pan fo polisi'n mynd i ddarfod, caiff Cynhadledd UCM Cymru'r cyfle i'w adnewyddu am dair blynedd bellach, os yw'n dymuno gwneud hynny.
Yn y tudalennau isod, byddwch yn cael gwybod mwy am sut i gyflwyno cynnig. Unwaith fo’r cyfnod cyflwyno cynigion wedi gorffen, bydd yr holl gynigion ar gael ar y tudalennau hyn ichi eu gweld cyn y Gynhadledd.
Mae'r canllawiau canlynol yn rhoi arweiniad i'r broses ar gyfer creu polisi:
- Arweiniad i Ysgrifennu Polisi
- Llunio Polisi yn y Gynhadledd