To view this page in English, click here.
Beth all myfyrwyr Croenddu ei wneud?
- Cefnogi, meithrin, buddsoddi, ac amddiffyn eich hun. Mae Fope Olaleye, ein Swyddog Myfyrwyr Croenddu, wedi creu cyfres wych o adnoddau, gwybodaeth, canllawiau ac awgrymiadau hunanofal y gallwch eu canfod yma.
- Gweithredwch - gall cysylltu ag eraill sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder a thegwch hiliol fod yn rymusol. Yn aml mae gan undebau myfyrwyr bwyllgorau a strwythurau cynrychiolaeth ar gyfer myfyrwyr croenddu, yn ogystal â chlybiau a chymdeithasau gwrth-hiliaeth. Estynnwch allan i'ch UM i ddarganfod beth sy'n digwydd yn lleol. Yn genedlaethol mae yna lawer o fudiadau hefyd, gan gynnwys Black Lives Matter UK, Dangoswch y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Black Minds Matter, Ymddiriedolaeth Elusennol Stephen Lawrence a Sefwch yn Erbyn Hiliaeth ac Anghydraddoldeb.
- Ceisiwch gefnogaeth ar y cyd gan fyfyrwyr Croenddu eraill. Aeth Ymgyrch Menywod UCM ati i greu’r canllaw gweithdy hwn er mwyn i fenywod Croenddu gynnig cymorth i fenywod Croenddu eraill ofalu am eu hunain a’u cymunedau.
Beth all myfyrwyr croenwyn a’r rhai sydd ddim yn Groenddu ei wneud?
- Addysgwch eich hun. Nid cyfrifoldeb pobl Groenddu yw eich addysgu am hiliaeth a beth i'w wneud. Peidiwch â gofyn. Dylech wrando, dilyn a dysgu. Peidiwch â gwneud hyn amdanoch chi. Gwrandewch, dilynwch a dysgwch. Ewch i’n tudalen adnoddau am syniadau ar ble i ddechrau.
- Gwnewch gyfraniadau gweithredol parhaus. Nid hunaniaeth yw bod yn 'wrth-hiliol' - mae'n gyfres o gamau parhaus.
-
- Cyfrannwch at achosion gwrth-hiliol fel The Free Black University. Am gymaint o syniadau a gwybodaeth am ble i chwilio am fwy, gweler y rhestrau adnoddau ar-lein yma..
- Cymerwch gamau gwleidyddol - pleidleisiwch dros bleidiau gwrth-hiliol; gallwch hefyd lobïo dros ddiwygio addysg, ysgrifennu at ASau, llofnodi deisebau. Unwaith eto, i ganfod syniadau a gwybodaeth am ble i chwilio am fwy, gweler y rhestrau adnoddau ar-lein yma.
-
-
- Buddsoddwch mewn busnesau sy’n eiddo i bobl groenddu; hefyd nwyddau, celf a diwylliant; rhannwch eich gweithredoedd ag eraill gan ehangu nifer y cefnogwyr.
- Gweithredwch. Ymunwch â mudiad neu ymgyrch wrth-hiliol, rhannwch eich sgiliau a'ch cyfleoedd, cynigiwch gefnogaeth ymarferol (gosod posteri, dosbarthu taflenni, a.y.b.) a defnyddiwch eich creadigrwydd ar gyfer delweddau ar gyfryngau cymdeithasol a baneri. Beth am ddarparu cymorth cyntaf neu wella diogelwch yn ystod gweithredu uniongyrchol?