To view this page in English, click here.
Rhestrau adnoddau ar-lein a luniwyd gan eraill
- Mae Undeb Myfyrwyr SOAS wedi cynhyrchu Pecyn Adnoddau Ymladd Anti-Blackness, sydd ar gael yma.
- Mae Undeb y Myfyrwyr yn UCL wedi llunio rhestr adnoddau yn amlinellu Gweithredoedd o Gefnogaeth i helpu unigolion i wrando, dysgu, gweithredu a myfyrio.
- Mae rhestr o gamau ymarferol y gallwn eu cymryd i gefnogi'r mudiad BLM, yma yn y DU a thramor ar gael yma.
- Lluniwyd rhestr ymarferol arall gan Perkin Amalaraj yma.
- Yn yr un modd, gallwch fwrw golwg (a gweithredu!) ar y Rhestr Weithredu llenwi’r bylchau hon.
Adnoddau i helpu pobl groenwyn i ddysgu
Adnoddau ar gyfer pobl Groenddu sy'n byw drwy hyn
Adnoddau ar gyfer gwrthdystwyr
Erthyglau am hiliaeth yn y sector addysg ac elusennol
Rydym hefyd wedi rhestru isod yr amrywiaeth o adnoddau a gynhyrchwyd gan UCM dros y degawd diwethaf i gefnogi gwaith gwrth-hiliaeth mewn undebau myfyrwyr ac ar draws y sector addysg.
Y Bwlch Cyrhaeddiad Croenddu
Ymchwil a phrofiadau o addysg
Ymchwil a phrofiadau gan fudiad y myfyrwyr
Prevent
Mis Hanes Croenddu
- Hanes Croenddu: Mwy na Dim Ond Mis (2015) Mae'r canllaw hwn yn cynnwys llawer o wybodaeth am Fis Hanes Croenddu, syniadau ar gyfer gweithgareddau, manylion am ymgyrchwyr a siaradwyr croenddu a chysylltiadau defnyddiol.
- Dathlu Mis Hanes Croenddu (2015) Mae'r pecyn hwn, gan Ymgyrch Myfyrwyr Croenddu UCM yr Alban, wedi'i gynllunio i helpu cymdeithasau myfyrwyr wrth gynnal digwyddiadau drwy gydol Mis Hanes Croenddu, ac yn ystod y flwyddyn gyfan; mae’n canolbwyntio ar yr agwedd groestoriadol ac yn annog myfyrwyr Croenddu i gyfranogi ym mudiad y myfyrwyr yn ehangach.
- Menywod Croenddu mewn Hanes (2012) Proffil o 10 o fenywod croenddu sydd wedi cyflawni pethau nodedig a rhyfeddol mewn hanes sy'n haeddu cydnabyddiaeth, yn ogystal â sesiwn briffio sy'n canolbwyntio ar ffyrdd y gall pobl roi'r wybodaeth hon ar waith ac annog eich undeb i gymryd rhan mewn dathlu menywod croenddu drwy hanes.
Arall