Menu

Diweddariad: 17 Mawrth 2020

DIWEDDARIAD I AELODAETH UCM AR CORONAFEIRWS (COVID-19) 17 Mawrth 2020

Ein prif flaenoriaeth yw iechyd, diogelwch a llesiant y myfyrwyr a'r prentisiaid yr ydym i gyd yn eu cynrychioli, ac i'r perwyl hwn rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau, undebau llafur, cyrff sector cenedlaethol fel Cymdeithas Prifysgolion y DU, Cymdeithas y Colegau, y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, a'r llywodraeth fel sail i’n hymateb i Coronafeirws (Covid-19).

 

Dyma ddiweddaraf am yr hyn yr ydym yn ei wneud ar eich rhan i sicrhau bod eich buddiannau'n cael eu cynrychioli wrth i ni fynd i'r afael â'r pandemig hwn:

 

  • Rydym wedi llunio a chyhoeddi rhestr helaeth o gwestiynau i UMau eu gofyn i'w sefydliadau, ac mae'r rhain wedi'u rhannu â Chymdeithas Prifysgolion y DU a Chymdeithas y Colegau
  • Bydd Clare Sosienski Smith, gyda chefnogaeth uwch gyfarwyddwr, yn mynychu'r grŵp cydgysylltu'r sector a gynullwyd gan Gymdeithas Prifysgolion y DU. Mae is-grwpiau pellach sy'n edrych ar feysydd fel lles a llesiant a myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu sefydlu, a byddwn yn cymryd rhan yn y rhain, gan godi materion sy’n effeithio ar fyfyrwyr a chwilio am ddatrysiadau
  • Ysgrifennodd Zamzam at Ganghellor y Trysorlys ddydd Llun 16 Mawrth i ofyn am ostwng y trothwy ar gyfer Tâl Salwch Statudol a chymorth ariannol arall i weithwyr sy'n fyfyrwyr, yn ogystal â chymorth i ddarparwyr AB ac AU a allai wynebu anawsterau cyllido oherwydd, er enghraifft, llai o recriwtio o blith myfyrwyr rhyngwladol
  • Rydym yn cwrdd â'r Swyddfa Gartref ddydd Mawrth 17 Mawrth i drafod fisas a materion mewnfudo, gan geisio sicrwydd ynghylch sut y gellir cynnig cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol tra bo’r sefyllfa bresennol yn tarfu’n sylweddol ar deithio ac ar gyrsiau yn y DU
  • Rydym mewn cysylltiad ag undebau gofal iechyd ynghylch cynigion honedig i osod myfyrwyr gofal iechyd ar eu blwyddyn olaf ar lwybr carlam yn syth i mewn i’r GIG, a byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau os caiff unrhyw gynllun o'r fath ei lansio, bod myfyrwyr yn cael cymorth priodol.
  • Rydym yn cysylltu ag undebau addysgu gan gynnwys NEU ac UCU i drafod rhai o'u ceisiadau a'u pryderon, gan gynnwys amserlennu ar gyfer arholiadau ac asesu, a sut y gallwn weithio gyda nhw ar ganfod datrysiadau synhwyrol
  • Rydym yn gweithio gyda Chod Safonau UNIPOL i gyfleu cyngor i'r sector llety myfyrwyr preifat ‘wedi'i adeiladu at y pwrpas’ ac yn cadw’n gyfoes am ddatblygiadau yn y maes hwn.
  •  • Rydym mewn cysylltiad â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i ofyn am sicrwydd ynghylch gweithrediadau cyllid myfyrwyr a chynhaliaeth i fyfyrwyr y tarfwyd ar eu cyrsiau neu y gallai fod angen iddynt ailadrodd blynyddoedd.

 

  • Rydym yn anfon cwestiynau’r UM at Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gael ymateb
  • Rydym yn siarad yn rheolaidd â chyrff yn y sector i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae sefydliadau'n ymateb i'r argyfwng.
  •