To view this page in English, click here.

Felly, rydych chi am fod yn wrth-hiliol ... Pam dadwladychu?
Mae'r swyddogion yn cymryd drosodd yr Insta Live ar 8 Hydref, 6-7pm, @NUS_UK
Cewch ddarganfod sut mae Dadwladychu, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol, yn rhoi'r offer i ni ganfod a chwalu hiliaeth systemig. Bydd Larissa, Hillary a Sara, eich swyddogion etholedig, yn ateb eich holl gwestiynau ar sut y gallwch chi gymryd rhan mewn adeiladu rhywbeth gwell ar gyfer ein system addysg a'n cymdeithas, yn ogystal â beth yw pwrpas ein hymgyrch Dadwladychu Addysg. Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau ymlaen llaw trwy glicio yma.
Os oes gennym amser byddwn hefyd yn cymryd cwestiynau byw yn ystod y digwyddiad. (Peidiwch ag anghofio cynnwys hysbysiad ar ein proffil, fel na fyddwch chi’n methu allan pan fyddwn ni’n mynd yn fyw!)

Dadwladychu Addysg: Y Gorffennol a’r Presennol, y podlediad
Mae dadwladychu yn ymarferol yn ymwneud â dwyn i'r amlwg a chwalu pŵer gwladychol yn ei holl ffurfiau. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ddeall bod y gymdeithas sy’n gyfarwydd i ni wedi'i hadeiladu ar y pŵer hwn, ac mai'r unig ateb yw canfod datrysiad systemig ar gyfer problem systemig. Nod y podlediad hwn yw creu ymdeimlad sy'n seiliedig ar hanes o'r ffaith bod gwladychiaeth wedi llunio ac yn parhau i lunio ein system addysg, ac mae safbwyntiau dadwladychol yn gwbl hanfodol i waith gwrth-hiliol.
Dan arweiniad Is-Lywydd Rhyddhad UCM, Sara Khan, bydd y podlediad hwn yn trafod y ffaith nad rhywbeth o'r gorffennol yn unig yw gwladychiaeth ac imperialaeth, ond yn hytrach rhywbeth sy’n dal i fod yn bresennol yn ein bywydau bob-dydd. (Dolen i’w lawrlwytho’n dod yn fuan!)

Mynd at wraidd y mater: Dadwaddoli addysg yn ymarferol.
Trafodaeth banel ar 28ain Hydref, 6 - 7:30pm.
Fel y dwedodd Angela Davis: “Yn syml, mae radical yn golygu mynd at wraidd y broblem.” O ymgyrch ‘Gwared ar Rhodes’, i ‘Ddadwladychu fy Nghwricwlwm’, i fyfyrwyr yn ymgyrchu dros ddadfuddsoddiad er mwyn cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gwelwn fod gweithredwyr, swyddogion myfyrwyr a staff academaidd wedi bod yn arwain y mudiad dadwladychu addysg yma yn y DU, gan wneud newid ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. . Ar gyfer ein digwyddiad olaf, ymunwch â'n panelwyr anhygoel i drafod sut y gallwn roi dadwladychu ar waith er mwyn creu system addysg newydd.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad trwy glicio yma.

Bydd cynrychiolwyr UCM hefyd yn siarad yn y digwyddiadau canlynol - (Bydd mwy o fanylion a dolenni'n cael eu rhyddhau cyn bo hir)
Mae Bywydau Pobl Groenddu’n Bwysig (BLM): Mudiad nid Munud
Pryd: 1 Hydref, 6:30-7:30pm
Ble: UM Royal Holloway
Manylion: Yn dod yn fuan!
Beth mae UCM yn ei wneud ynglŷn â BLM a dadwladychu AU y DU?
Pryd: 7 Hydref, 4:00-5:30pm
Ble: UM Sheffield Hallam
Manylion: www.hallamstudentsunion.com/ents/event/4942/
Digwyddiad Mis Hanes Croenddu
Pryd: 14 Hydref, 5:00-6:00pm
Ble: UM Prifysgol Caerefrog
Manylion: Yn dod yn fuan!
Pam Mae Angen Radicaliaeth Groenddu arnom
Pryd: 21 Hydref, 5:00-6:30pm
Ble: Prifysgol Nottingham
Manylion: Yn dod yn fuan!
Tu hwnt i Fis Hanes Croenddu
Pryd: 29 Hydref
Ble: UM Royal Holloway
Manylion: Yn dod yn fuan!
I lawrlwytho'r poster lansio #DadwladychuAddysg cliciwch yma.